|
Ymddiriedolaethau
|
|
Trefnir nifer o gystadlaethau yn flynyddol ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr y sir gan Gymdeithas Maldwyn:
Bwriad y cystadlaethau yw annog disgyblion a myfyrwyr i ymgymryd â chelf, ysgrifennu, cerddoriaeth a thechnoleg. Trefnir y pedair cystadleuaeth gyntaf uchod yn wirfoddol gan Ysgrifennydd Cystadlaethau'r Gymdeithas ynghyd a threfnydd a beirniaid yn y sir. O bryd i'w gilydd, daw rhoddion ariannol ychwanegol i law, sy'n caniatáu i'r ymddiriedolwyr gadw'r arian gwobr ar lefel atyniadol i'r disgyblion. Rhoddwyd gwerth £1,110 o wobrau yn 2006. Am fanylion pellach, gweler Cystadlaethau. Byddai'r ymddiriedolwyr yn ddiolchgar dros ben am roddion ariannol o unrhyw faint. Rhoddir manylion am roddion yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth ac yn y Cyfrifon Blynyddol, er fe ellir cyfrannu'n anhysbys. Os hoffech gyfrannu, a fyddech gystal â thalu eich siec i THE MONTGOMERYSHIRE SOCIETY CHARITABLE TRUSTS a'i hanfon at: Mr H Puleson Jones Gyda diolch Yr Ymddiriedolwyr |
|